Gwirfoddoli yn Hft
Beth am ichi ein helpu ni i gynnig cyfle i oedolion gydag anawsterau dysgu i fyw’n fwy annibynnol a gyda mwy o ddewisiadau drwy gynnig rhywbeth anhygoel – eich amser yn gwirfoddoli i Hft.
Rhesymau dros wirfoddoli gyda Hft?
Drwy wirfoddoli gyda Hft, mae’n gyfle ichi wneud gwaith arbennig: byddwch yn helpu pobl gydag anawsterau dysgu i gymryd yr awenau dros eu bywyd a byw y bywyd gorau posib.
Bu i ein gwirfoddolwyr ddatgan y bu gwirfoddoli yn hwb i’w hyder ac yn gyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau a gwneud ffrindiau newydd. Ymunwch gyda ni heddiw i ganfod sut gall wirfoddoli wneud newid i fywydau – gan gynnwys eich bywyd chi.
Cysylltwch gyda ni i wybod mwy: 01274 655956 neu volunteering@hft.org.uk.
Datblygiad personol a datblygu yn eich gyrfa
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd, rhoi hwb i’ch hunan-hyder neu gynnig cyfleoedd i wneud cynnydd yn eich gyrfa. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn dewis gwirfoddoli gyda ni gan eu bod yn dymuno newid eu gyrfa’n gyfan gwbl a manteisio ar brofi math newydd o swydd.
Hyfforddi a datblygu
Byddwn yn cynnig hyfforddiant wrth weithio i bob un o’n gwirfoddolwyr. Mae’n bosib y bydd hefyd cyfle ichi ennill achrediad gwirfoddoli drwy gynlluniau fel cynllun gwobrau Dug Caeredin.
Cysylltwch gyda ni i wybod mwy: 01274 655956 neu volunteering@hft.org.uk.
Ffyrdd o wirfoddoli
Mae sawl ffordd gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli. Unrhyw swydd wirfoddol byddwch yn penderfynu ei chyflawni, byddwn yn eich cefnogi’n gyfan gwbl.
Cyfeillio
Mae angen gwirfoddolwyr arnom i gefnogi pobl gydag anawsterau dysgu i gyflawni’r pethau hynny maen nhw’n eu mwynhau – fel bowlio, nofio, gwylio chwaraeon neu fynd am goffi. Rhannwch eich diddordebau gyda ni a bosib y bydd modd inni eich paru gyda rhywun sy’n rhannu eich brwdfrydedd.
Bydd eich cefnogaeth yn gyfle i’ch cyfaill roi hwb i’w hyder, datblygu eu sgiliau a bod yn fwy annibynnol – hyn i gyd wrth gymryd rhan mewn diddordebau rydych chi’ch dau yn ymddiddori ynddyn nhw.
Byddwn yn cynnig yr holl gefnogaeth fydd ei angen arnoch chi, a byddwn yn ad-dalu eich costau teithio ac unrhyw gostau eraill ichi yn ystod eich cyfnod gyda’ch cyfaill. Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad arnoch i fod yn gyfaill gwirfoddol. Yr oll sydd ei angen ydy agwedd gadarnhaol, empathi, amynedd ac ychydig o amser rhydd.
Cysylltwch gyda’n tîm gwirfoddoli i wybod mwy, ar 01274 655956 neu anfonwch e-bost at volunteering@hft.org.uk
Gwirfoddoli Corfforedig
Waeth pa mor fawr ydy’ch mudiad, mae gwirfoddoli corfforedig yn ffordd wych i’ch gweithwyr wneud gwahaniaeth.
Bydd cyfle i’ch busnes chi elwa hefyd, wrth i’ch gweithwyr ymwneud mwy gyda’i gilydd, ffurfio perthnasau gwell a chysylltiadau cryfach gyda’ch cymuned.
Pe byddwch chi’n mynd ati i greu gardd synhwyrau, yn peintio ac addurno cartref cyntaf rhywun, neu’n cynnal parti’r haf, gallwn ddod o hyd i brosiect sy’n bodloni eich amcanion ac yn fodd ichi wneud gwaith gwerth chweil fel rhan o dîm.
I drafod sut gall partneriaeth gyda Hft olygu buddion i’ch busnes, anfonwch e-bost at partnerships@hft.org.uk neu ffoniwch 0117 906 1767.
Gwirfoddolwyr yn Codi arian
Oes gennych chi gwpl o oriau yn rhydd? Cymrwch olwg ar ein tudalennau Codi Arian i ddod o hyd i ddigwyddiadau Hft yn eich ardal chi. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i godi arian ar y stryd, cydlynwyd blychau casglu arian, stiwardiaid mewn digwyddiadau a charfannau codi hwyl!
Os ydych yn dymuno bod yn greadigol, mae gennym ni dorreth o adnoddau i’ch helpu gyda threfnu eich digwyddiad eich hun.
Oes gennych chi ddiddordeb? Ffoniwch ein Tîm Gofal Cefnogwyr Cymunedol ar 0117 906 1767 neu anfonwch e-bost at hello@hft.org.uk.
Cwestiynau Cyffredin ynghylch Gwirfoddoli?
Volunteer at Hft
Help us give adults with learning disabilities the chance to live with more independence and choice by doing something amazing – become an Hft volunteer.
Why volunteer with Hft?
By volunteering with Hft, you’ll be doing something special; helping people with learning disabilities to take control of their lives and live the best life possible.
Our volunteers tell us they’ve gained confidence, skills and new friendships through their experience. Join us today and discover how volunteering can change lives – including yours.
Get in touch to find out more: 01274 655956 or volunteering@hft.org.uk.
Personal and career development
Volunteering is a great way to develop new skills, build your self-confidence, or help your career prospects. Some of our volunteers come to us because they want to completely change direction in their careers and get experience of a new type of job.
Training and development
We provide on the job training for our volunteering roles. You may also have the opportunity to get a volunteering accreditation with schemes like the Duke of Edinburgh awards scheme.
Get in touch to find out more: 01274 655956 or volunteering@hft.org.uk.
Ways to volunteer
There are plenty of ways you can make a difference by volunteering. And whatever volunteering role you decide on, you’ll be fully supported.
Buddying
We need volunteers to support people with learning disabilities to do the things they enjoy – whether it’s bowling, swimming, watching sports or going out for a coffee. Let us know what you’re interested in, and the chances are we’ll be able to match you with someone who shares your passion.
Your support will give your buddy the opportunity to gain confidence, independence and skills – all while doing something you both enjoy.
We’ll provide all the support you need, and you will receive travel and out-of-pocket expenses for the time you spend with your buddy. You don’t need any qualifications or experience to be a volunteer buddy, just a positive attitude, empathy, patience and some free time.
Get in touch with our volunteering team to find out more, on 01274 655956 or via email at volunteering@hft.org.uk
Corporate volunteering
No matter what size your organisation, corporate volunteering is a great way for your employees to make a difference.
And your business stands to benefit too, through greater employee engagement, better relationships and stronger links with your local community.
Whether it’s creating a sensory garden, painting and decorating someone’s first home, or planning and running a summer party, we’ll find a project that fulfils your objectives and enables you to do something truly rewarding as a team.
To discuss how a partnership with Hft could benefit your business, please email partnerships@hft.org.uk or call 0117 906 1767.
Volunteer fundraising
Have a couple of spare hours? Take a look at the Fundraising pages to find any Hft events taking place near you. We’re always on the lookout for street collection volunteers, collection-box coordinators, event stewards and cheer squads!
And if you’re feeling creative, we have a whole range of resources to help you plan your own event.
Interested? Call our Community Supporter Care Team on 0117 906 1767 or email hello@hft.org.uk.