Rydym yn ymdrechu hyd eithaf ein gallu i ofalu bod y rheiny rydym yn eu cefnogi yn cymdeithasu, yn cyfarfod ag eraill, yn gwneud ffrindiau ac yn datblygu perthnasau gydag eraill.
Hoffai bob un ohonom deimlo cariad a theimlo bod eraill yn ein derbyn a dydy pobl gydag anawsterau dysgu ddim gwahanol inni. Fodd bynnag, gall gyfarfod â phobl newydd, cymdeithasu a chynnal perthnasau fod yn anodd os ydy cyfathrebu neu grwydro yn drafferth ichi.
Dyma’r rheswm pam ein bod ni’n ymdrechu hyd eithaf ein gallu i ofalu bod y rheiny rydym yn eu cefnogi yn cwrdd ag eraill a datblygu perthnasau ystyrlon.
Mae pob un o’n gwasanaethau yn gyfle ichi gwrdd ag eraill drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd o ganu mewn côr i wirfoddoli mewn siop elusen ac rydym yn gofalu bod modd i’r rheiny rydym yn eu cefnogi gyflawni’r gweithgareddau o’u dewis nhw pan fo’n bosib.
Rydym hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau felly rydym yn cefnogi pobl i gadw mewn cyswllt gyda’r rheiny sy’n annwyl iddyn nhw. Fe awn ni ati i wneud hyn drwy drefnu cinio ddydd Sul gyda ffrindiau neu drefnu galwad Skype gydag aelodau teulu.
Luv2meetU ydy ein gwasanaeth cyfeillgarwch a dod o hyd i gariad arobryn. Fe gaiff ei gynnal yn Bradford ond caiff ei weithredu ar draws nifer o ranbarthau. Rydym yn cynnal digwyddiadau a theithiau hwyl i oedolion gydag anawsterau dysgu sy’n gyfle iddyn nhw wneud ffrindiau ac efallai dod o hyd i gariad. Ymysg y gweithgareddau rydym yn eu cynnig mae sglefrio iâ, mynd i glwb nos a bowlio. Mae cyfle i’r aelodau ddewis y gweithgareddau pob wythnos.
Os ydy dau o’n haelodau yn dymuno mynd ar ddêt, gallwn gynnig cyngor iddyn nhw. Gallwn hefyd drefnu bod gwarchodwraig yn gwmni iddyn nhw pan fyddan nhw’n cwrdd am y tro cyntaf er mwyn gofalu fod popeth yn ddi-drafferth.
We all want to be loved and accepted, and people with learning disabilities are no different. But meeting new people, socialising and maintaining friendships can be difficult if you have trouble communicating, or getting out and about.
That’s why we do everything we can to enable the people we support to meet others and build meaningful friendships.
All of our services provide opportunities to get to know others through activities in the community. From singing in a choir to volunteering at a charity shop, we make sure the people we support are able to do the things they want to do wherever possible.
We also know how important it is to be able to stay in touch with family and friends, so we support people to keep in contact with their loved ones, whether it’s through organising a Sunday lunch with friends, or Skyping a relative.
Luv2meetU is our award-winning friendship and dating service – based in Bradford, but operated across a number of regions. We run events and outings for adults with learning disabilities so that they can have fun, make friends and maybe meet a boyfriend or girlfriend. Activities range from ice-skating and clubbing, to speed dating and bowling – members influence the activities from week to week.
If two of our members want to go on a date, we are on hand to give advice. We can also chaperone their first meeting to help make sure everything goes smoothly.
Find out all about our services and where we operate on the Luv2meetU website.