Mwy Amdan Hft
Mae hawl gan bawb fyw eu bywyd i’r eithaf gan gynnwys pobl gydag anawsterau dysgu. Fodd bynnag, mae pobl gydag anawsterau yn wynebu rhwystrau sylweddol – gall eu heriau fod yn hynod gymhleth a phara trwy gydol eu hoes. Er hynny, gan fanteisio ar y gofal, cefnogaeth ac anogaeth gywir, rydym o’r farn gall unrhyw un gydag anawsterau dysgu fanteisio ar fywyd mwy dymunol, cysurus a boddhaol.
Dyma pam fod y bobl rydym yn eu cefnogi yn annatod i’n holl waith, Mae ein Model Cefnogi ar y Cyd yn gofalu ein bod yn canolbwyntio ar anghenion penodol pob unigolyn gan gynnig gofal personol a chefnogaeth greadigol. Rydym yn ymdrechu i ddeall eu hanghenion newidiol a chynnig gwasanaethau a chefnogaeth sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’w bywydau.
Fel un o’r elusennau mwyaf a hynaf yn cefnogi pobl gydag anawsterau dysgu yn Lloegr a Chymru, mae modd inni fuddsoddi ein gwybodaeth yn ein staff. Rydym yn mynd ati i’w helpu i ddatblygu sgiliau arbenigol a’r medrusrwydd angenrheidiol er mwyn cynnig y gefnogaeth rydym yn credu sydd ei angen. Rydym yn gofalu bod gan y staff bob amser ddigon o amser i ddatblygu perthnasau dibynadwy a gofalgar gyda’r bobl a’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi.
Ledled Lloegr a Chymru, mae ein gwasanaethau yn amrywio o ofal preswyl a chyfleoedd yn ystod y dydd i wasanaeth byw gyda chefnogaeth / gofal cartref – o ychydig oriau’r wythnos i 24 awr y diwrnod. Rydym yn cynnig cefnogaeth fel bod modd i bobl gydag anawsterau dysgu fanteisio i’r eithaf ar fywyd – gan ofalu eu bod yn mwynhau eu bywyd, eu bod yn foddhaol gyda’u bywyd, gwella’u hiechyd a datblygu perthnasau ystyrlon neu waith gyda thâl. Rydym yn mynd tu hwnt i’r galw o fod yn ddarparwr cefnogaeth o safon yn unig.
Mae Hft yn elusen gofrestredig. Dyma fanylion ein helusen gofrestredig:
Enw cofrestredig:
HF Trust Ltd
Cyfeiriad Cofrestredig:
5/6 Brook Office Park, Folly Brook Rd, Emersons Green, Bristol, BS16 7FL
Rhif Cwmni wedi’i gofrestru yn Lloegr:
734984
Rhif elusen gofrestredig:
313069
About Hft
Everyone has a right to the best life possible and that includes people with learning disabilities. But people with learning disabilities face obstacles that are hard to imagine – their challenges can be complex and lifelong. Even so, with the right care, support and encouragement, we believe everyone with a learning disability can find more enjoyment, comfort and satisfaction in their lives.
That’s why everything we do is centred on the people we support. Our Fusion Model of Support ensures that we focus on the specific needs of each individual, being creative about the kind of personal care and support we offer. We work hard to understand their changing needs and provide services and support that make a real difference to their lives.
As one of the largest and longest-established charities supporting people with learning disabilities in England and Wales, we are able to invest our knowledge in our staff. We help them to develop the specialist skills and expertise needed to provide the kind of support we believe in. And we try to make sure they always have the time it takes to build trusted, caring relationships with the people and families they support.
Across England and Wales, our services range from residential care and day opportunities to supported living/domiciliary care at home – from a few hours a week to 24 hours a day. We provide support that means people with learning disabilities can experience life to the full – from enjoyment, satisfaction and improved health to finding meaningful relationships or paid employment. Our commitment goes beyond being just a high quality support provider.
Hft is a registered charity. Our registered charity details are as follows:
Registered name:
HF Trust Ltd
Registered Address:
5/6 Brook Office Park, Folly Brook Rd, Emersons Green, Bristol, BS16 7FL
Company Registered in England no:
734984
Registered Charity no:
313069