Llywodraethu
Hft ydy un o’r ychydig elusennau er lles anawsterau dysgu lle mae teuluoedd a gofalwyr pobl gydag anhawster dysgu yn rhan ymarferol er mwyn gofalu bod anghenion y bobl rydym yn eu cefnogi yn annatod i’n holl waith.
Cafodd yr elusen ei sefydlu’n wreiddiol gan grŵp o deuluoedd, llawn gweledigaeth, plant gydag anawsterau dysgu er mwyn gofalu bod eu plant yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae Hft yn gweithredu fel mudiad aelodaeth unigol, gan ofalu ein bod yn parhau i wella bywydau’r bobl rydym yn eu cefnogi yn ddigonol.
Mae aelodau yn annatod i’n gwaith. Rydym yn cynnig y diweddaraf i’n holl aelodau ynghylch cynnig gwasanaethau effeithiol i bobl gydag anawsterau dysgu a’u teuluoedd, rydym yn eu gwahodd i’n Cyfarfod Blynyddol. At hyn, rydym yn gofyn iddyn nhw am bleidleisio i enwebu nifer o’n Hymddiriedolwyr er mwyn gofalu eu bod yn chwarae rhan yn nyfodol Hft. Mae hefyd cyfle i’n haelodau ddod yn Ymddiriedolwyr eu hunain.
Mae ein Cyngor o Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am strategaeth gyffredinol Hft a rheoli Hft yn effeithiol. Caiff 50% o’n Hymddiriedolwyr eu dewis gan ein haelodau a 50% eu henwebu gan y Cyngor am eu harbenigedd mewn meysydd perthnasol.
Mae ein Hymddiriedolwyr wedi eu henwebu yn deillio o gefndiroedd amrywiol ac fe gân nhw eu dewis am y sgiliau ac arbenigedd gallan nhw ei gynnig i gynnal gwasanaethau cefnogi Hft. Mae sawl un yn hynod ymwybodol o’r trafferthion sy’n effeithio ar bobl gydag anawsterau dysgu. Mae gan rai aelodau teulu gydag anawsterau dysgu, rhai yn ofalwyr neu’n gyfeillion i rywun gydag anhawster dysgu ac mae rhai yn meddu ar arbenigedd penodol mewn datblygu polisïau neu sgiliau penodol sy’n gofalu bod modd cynnal Hft yn effeithiol.
Mae’r uwch dîm reoli o dan arweiniad y Prif Weithredwr, yn gyfrifol am weithredu strategaeth Hft a’r gwaith ynghlwm â’i gynnal o ddydd i ddydd.
Mae ein Hymddiriedolwyr a’r uwch dîm rheoli yn rhannu’r un nod : gofalu bod Hft yn cynnig y gefnogaeth gorau posib. Maen nhw hefyd yn mynd ati yn barhaus i geisio canfod ffyrdd newydd i sicrhau fod modd i’r rheiny rydym yn eu cefnogi i fanteisio ar y bywyd gorau posib.