{"id":236,"date":"2017-07-06T20:40:20","date_gmt":"2017-07-06T19:40:20","guid":{"rendered":"https:\/\/equi.ajswebmedia.co.uk\/?page_id=236"},"modified":"2026-02-26T16:17:02","modified_gmt":"2026-02-26T16:17:02","slug":"preifatrwydd-a-chwcis","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/preifatrwydd-a-chwcis\/","title":{"rendered":"Preifatrwydd a Chwcis"},"content":{"rendered":"<h1>Preifatrwydd a Chwcis<\/h1>\n<p><strong>Diweddarwyd diwethaf:<\/strong> Mai\u2019r 9fed 2019<\/p>\n<p>Mae Ymddiriedolaeth HF Cyfyngedig (Hft) yn ymroi i ofalu caiff eich gwybodaeth bersonol ei ddefnyddio\u2019n briodol a\u2019i gadw\u2019n ddiogel. Mae\u2019r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn casglu a defnyddio\u2019ch gwybodaeth bersonol.<\/p>\n<p>Bu inni geisio bod yn agored ac eglur am ein prosesau drwy\u2019r polisi hwn yn gyfan gwbl ond os hoffech chi inni egluro unrhyw agwedd o\u2019r wybodaeth ganlynol yn fwy trylwyr, cofiwch gysylltu gyda ni.<\/p>\n<h2>Manylion Cyswllt<\/h2>\n<p>Caiff unrhyw wybodaeth bersonol byddwch yn ei chyflwyno drwy\u2019r wefan hon eu rheoli gan Hft. Mae Ymddiriedolaeth HF Cyfyngedig (Hft) wedi ei gofrestru fel rheolwr data gyda\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth o dan gyfeirnod Z5498583.<\/p>\n<p>Mae Hft yn gwmni cofrestredig yn Lloegr a Chymru gyda\u2019r \u00a0rhif cwmni \u00a0734984. \u00a0Mae ein swyddfa gofrestredig yn 5\/6 Brooke Office Park, Folly Brook Road, Emersons Green, Bristol, BS16 7FL.<\/p>\n<p>Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi, cysylltwch gyda\u2019n Rheolwr Gwarchod Data ar y cyfeiriad uchod neu anfonwch e-bost at \u00a0<a href=\"mailto:dataprotection@hft.org.uk\">dataprotection@hft.org.uk<\/a>.<\/p>\n<h2>Ein gwefan<\/h2>\n<p>Mae gwefan Hft ar ffurf WordPress, a chaiff ei gyflwyno ar weinyddion ym Mhrydain. Mae\u2019r wefan yn berchen ar dystysgrif diogelwch SSL (Haen Socedi Diogel) sy\u2019n gofalu bod yr wybodaeth gaiff ei drosglwyddo rhwng ein gwefan a\u2019ch dyfais chi ei amgryptio er mwyn gofalu ei bod hi\u2019n anodd i bobl heb awdurdod fwrw golwg ar yr wybodaeth.<\/p>\n<p>Rydym yn defnyddio asiantaeth allanol o\u2019r enw <a href=\"https:\/\/www.equimedia.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Equimedia<\/a>\u00a0er mwyn datblygu, cynnal a chyflwyno ein gwefan. Does dim hawl gan Equimedia fwrw golwg ar unrhyw ddata personol gaiff ei gyflwyno trwy ein gwefan.<\/p>\n<h3>Chwilio ar ein gwefan<\/h3>\n<p>Caiff ein hadnodd chwilio ar ein gwefan ei gynnal gan ategyn poblogaidd o\u2019r enw Relevanssi. Caiff ymholiadau chwilio eu cadw\u2019n anhysbys am 30 diwrnod er mwyn inni fedru gwella modd i bobl ddod o hyd i gynnwys ar ein gwefan. Ni fyddwn yn casglu cyfeiriadau IP y bobl hynny sy\u2019n defnyddio ein hadnodd chwilio..<\/p>\n<h3>Casglu eich gwybodaeth bersonol<\/h3>\n<p>Pan fyddwch yn ymweld ag ein gwefan, yn cofrestru fel ymgeisydd swydd neu yn cwblhau unrhyw ffurflenni ar ein gwefan, mae\u2019n bosib y byddwn yn gofyn ichi gyflwyno gwybodaeth amdanoch chi\u2019ch hun.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosib hefyd y byddwch chi\u2019n cyflwyno gwybodaeth bersonol inni pan fyddwch yn cysylltu gyda ni ar e-bost, ar y ff\u00f4n neu drwy anfon llythyr. Pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol inni, byddwn yn ymdr\u00een \u00e2\u2019r wybodaeth yn unol \u00e2\u2019r Polisi Preifatrwydd hwn.<\/p>\n<p>Caiff y data wedi\u2019i drosglwyddo inni gennych chi drwy sawl ffurf ar ein gwefan ei warchod gan dystysgrif diogelwch SSL. Mae\u2019n amgryptio data unrhyw ddata gaiff ei drosglwyddo er mwyn lleihau\u2019r tebygolrwydd o ryng-doriad gan drydydd parti. Rydym yn defnyddio ategyn WordPress o\u2019r enw Gravityforms ar gyfer ein hadnodd ffurflenni. Mae\u2019r ategyn wedi\u2019i gyflunio i beidio \u00e2 chadw manylion ar gronfa ddata pan g\u00e2n nhw eu cyflwyno gan osgoi unrhyw ddyblygiad cadw data diangen. Ni fydd Gravityforms.com yn medru gweld unrhyw ddata gaiff ei rannu drwy ffurflenni.<\/p>\n<p>Oni bai eich bod chi\u2019n defnyddio system e-bost wedi\u2019i amgryptio, mae\u2019n bosib na chaiff yr wybodaeth y byddwch chi\u2019n ei hanfon atom ni ei gwarchod unwaith ichi anfon yr e-bost atom ni. Ni allwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddata gaiff ei golli tra caiff ei drosglwyddo drwy e-bost anniogel.<\/p>\n<h3>Defnyddio a chadw eich gwybodaeth bersonol<\/h3>\n<p>Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol gennych chi neu sydd wedi\u2019i gasglu gan Hft drwy\u2019r wefan er y dibenion canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Tudalen Cysylltu gyda ni \/ ymholiadau cyffredinol<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>er mwyn prosesu ac ymateb i geisiadau, ymholiadau a chwynion gennych chi<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><strong>Canmoliaethau a Chwynion<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>cadw cofnod o ganmoliaethau neu gwynion ac ymateb yn eu cylch<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><strong>Ceisiadau swydd Hft<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>i brosesu ceisiadau swydd, asesu addasrwydd a recriwtio gweithwyr newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><strong>Tudalen Cyfrannu<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>i brosesu cyfraniadau<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li><strong>Ffurflen ymholiadau aelodaeth<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li style=\"list-style-type: none;\">\n<ul>\n<li>I ymateb i ddatganiadau o ddiddordeb ynghylch ymaelodi gyda Hft.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Cysylltu gyda Hft<\/h4>\n<p>Gallwch ddefnyddio\u2019r dudalen Cysylltu gyda ni ar ein gwefan i gysylltu gyda ni ynghylch unrhyw fater. Mae\u2019r ffurflen ar y dudalen yn cynnig cyfle ichi gyflwyno eich enw, rhif ff\u00f4n cyswllt, cyfeiriad e-bost a\u2019ch lleoliad. Rydym yn gofyn am y manylion hyn er mwyn ichi gynnig y ffurf cysylltu sydd orau gennych chi, er dydy\u2019r un o\u2019r manylion hyn yn ofynnol er mwyn ichi gyflwyno ffurflen.<\/p>\n<p>Fel arall, gallwch hefyd gysylltu gyda ni gydag ymholiadau cyffredinol drwy ffonio, anfon llythyr neu anfon e-bost.<\/p>\n<p>Pan fyddwch yn cysylltu gyda Hft, caiff eich ymholiad \u2013 gan gynnwys unrhyw ddata personol y byddwch yn ei gyflwyno \u2013 ei anfon ymlaen at yr adran sydd fwyaf addas i\u2019ch helpu gyda\u2019ch ymholiad. Er enghraifft, caiff ymholiadau ynghylch ceisiadau swydd eu hanfon ymlaen at ein t\u00eem recriwtio ac unrhyw ymholiadau yn ymwneud \u00e2 chyfraniadau eu hanfon ymlaen at ein hadran Codi Arian. Bydd Hft yn cadw a defnyddio\u2019r data er mwyn ymateb i\u2019ch ymholiad yn unig. Byddwn yn cadw cofnod gyda manylion eich ymholiad, ynghyd \u00e2\u2019ch manylion cyswllt.<\/p>\n<p>Byddwn yn cadw eich manylion personol am gyfnod o ddwy flynedd o\u2019r dyddiad y bu inni dderbyn eich ymholiad. Os erbyn hynny, ni fu i\u2019n hymateb i\u2019ch ymholiad arwain at unrhyw berthynas pellach gyda Hft, byddwn yn dinistrio\u2019ch data yn ddiogel.<\/p>\n<p>Os, yn ystod ein gohebiaeth gyda chi, caiff perthynas parhaus ei sefydlu, byddwn yn cynnig gwybodaeth bellach am unrhyw wybodaeth bersonol y bydd angen inni ei brosesu, ac am faint o hyd y byddwn yn cadw\u2019r wybodaeth.<\/p>\n<p>Byddwn yn cadw\u2019r holl ddata yn ddiogel ym Mhrydain drwy gydol y cyfnod hwn.<\/p>\n<h4>Canmoliaethau a Chwynion<\/h4>\n<p>Gallwch gyflwyno cwyn drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein, dros y ff\u00f4n, mewn llythyr neu wyneb yn wyneb i unrhyw aelod o staff.<\/p>\n<p>Gallwch gyflwyno cwyn anhysbys a byddwn yn cofnodi ac adolygu hyn yn yr un modd ag unrhyw g\u0175yn arall h.y. byddwn yn cydnabod unrhyw gamgymeriadau gennym ni ac yn gwneud newidiadau lle\u2019n briodol. Ond ni fydd modd inni roi gwybod ichi am ein newidiadau ac ati. Sylwch, bydd cyflwyno\u2019ch c\u0175yn yn anhysbys yn golygu hefyd na fydd modd inni fwrw golwg ar wybodaeth gefndirol bellach gennych chi a all fod yn help inni fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019ch c\u0175yn.<\/p>\n<p>Byddwn yn cofnodi natur eich c\u0175yn a\u2019ch manylion cyswllt a byddwn yn cydnabod eich c\u0175yn ymhen pum diwrnod gwaith. Byddwn yn cadw\u2019r wybodaeth hon ar ein system Cwynion a Chanmoliaethau lle caiff nifer cyfyngedig o staff Hft sy\u2019n berthnasol i\u2019ch c\u0175yn fwrw golwg arno.<\/p>\n<p>Os byddwn yn anfon eich c\u0175yn ymlaen at asiantaeth neu fudiad arall (oherwydd bod gofyn inni wneud hynny yn \u00f4l y gyfraith neu gytundeb) byddwn yn rhoi gwybod ichi. Byddwn yn rhannu cymaint o wybodaeth \u00e2 phosib am bwy fydd yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019ch c\u0175yn o\u2019r asiantaeth neu fudiad arall.<\/p>\n<p>Byddwn yn rhoi gwybod ichi pwy fydd yn adolygu ac yn ymateb i\u2019ch c\u0175yn, eu manylion cyswllt a\u2019r dyddiad y byddan nhw\u2019n ymateb ichi. Fe ddylai hyn fod ymhen 28 diwrnod wedi dyddiad eich c\u0175yn.<\/p>\n<p>Byddwn yn cadw\u2019ch gwybodaeth bersonol mewn man diogel am gyfnod o saith mlynedd, oni bai eich bod yn berson rydym yn ei gefnogi neu os ydy eich c\u0175yn ynghylch rhywun rydym yn eu cefnogi. Os hynny, byddwn yn cadw\u2019r wybodaeth am y cyfnod y bydd Hft yn cynnig cefnogaeth ichi \/ y person ac wyth mlynedd arall wedi hynny (Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Gweithgareddau Rheoleiddiedig) Rheoliadau 2014 (Rhan 3).<\/p>\n<h4>Ymgeiswyr Swyddi<\/h4>\n<p>Hft ydy\u2019r rheolwr data am yr wybodaeth y byddwch chi\u2019n ei chyflwyno yn ystod y broses. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y broses neu ynghylch sut rydym yn trin eich gwybodaeth, mae croeso ichi gysylltu gyda ni ar\u00a0<a href=\"mailto:jobs@hft.org.uk\">jobs@hft.org.uk<\/a>.<\/p>\n<h5>Defnydd o brosesyddion data<\/h5>\n<p>Mae prosesyddion data yn fudiadau trydydd parti sy\u2019n cynnig elfennau o\u2019n gwasanaeth recriwtio inni. Mae gennym ni gytundebau ar waith gydag ein prosesyddion data. Mae hyn yn golygu nad oes modd iddyn nhw ddefnyddio\u2019ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod ni wedi dweud wrthyn nhw am wneud hynny. Ni fyddan nhw\u2019n rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw fudiad heblaw amdanom ni. Byddwn yn cadw\u2019r wybodaeth yn ddiogel am y cyfnod y byddan ni\u2019n dweud wrthyn nhw am wneud hynny.<\/p>\n<h5>Sut byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch recriwtio<\/h5>\n<p>Rheolwyr cyflogi ac aelodai o\u2019n t\u00eem recriwtio fydd yn gwneud y\u00a0 penderfyniadau terfynol ynghylch recriwtio. Byddwn yn dwyn i ystyriaeth yr holl wybodaeth byddwn yn ei gasglu yn ystod y broses ymgeisio.<\/p>\n<p>Mae modd ichi ymholi ynghylch penderfyniadau am eich cais drwy gysylltu gyda\u2019ch person cyswllt o\u2019n t\u00eem recriwtio neu drwy anfon e-bost at <a href=\"mailto:jobs@hft.org.uk\">jobs@hft.org.uk<\/a><\/p>\n<p>Mae gennych chi hawliau absoliwt ynghyd \u00e2\u2019ch hawliau cyffredinol. Dyma nhw:<\/p>\n<ul>\n<li>hawl i fwrw golwg ar eich data (h.y. derbyn copi)<\/li>\n<li>hawl i gywiro eich data<\/li>\n<li>hawl i ddileu eich data personol (yr \u2018hawl i gael eich anghofio\u2019)<\/li>\n<li>hawl i gyfyngu eich data personol, mae hyn ond yn berthnasol i brosesu sy\u2019n ymwneud \u00e2 diddordebau cyfreithlon yn unig<\/li>\n<li>hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol, mae hyn ond yn berthnasol i brosesi yn ymwneud a diddordebau cyfreithlon yn unig.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cyfeiriwch at y matrix recriwtio am fwy o fanylion<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.hft.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hft-Recruitment-privacy-notice-matrix.pdf\">Lawr lwytho\u2019r Matrix Recriwtio <\/a><\/p>\n<h4>Codi Arian<\/h4>\n<p>Rydym yn gweithredu o dan y sail gyfreithiol o fuddiannau cyfreithlon i anfon post atoch chi sef y diweddaraf am sut bu inni wario eich cyfraniadau, newyddlenni, gwahoddiadau i ddigwyddiadau rydym yn credu fydd o ddiddordeb ichi a chatalogau Nadolig. Rydym hefyd yn defnyddio\u2019r sail i gynnal dadansoddiad o\u2019n gwaith yn ymwneud \u00e2 chodi arian. Byddwn bob amser yn cydbwyso eich hawliau o ran preifatrwydd yn erbyn ein buddion cyfreithiol ni ac os oes anghydbwysedd, ni fyddwn yn parhau i brosesu\u2019ch data.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithredu o dan y sail gyfreithiol o ganiat\u00e2d inni eich ffonio ac anfon e-byst a negeseuon testun atoch chi. Gallwch wrthwynebu i\u2019r caniat\u00e2d hwn unrhyw bryd.<\/p>\n<h4>Archwilio ac Ymchwil (Codi Arian)<\/h4>\n<p>Byddwn yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus i adnabod unigolion fuasai gan ddiddordeb o bosib yng ngwaith Hft ac sydd \u00e2 modd o gyfrannu rhodd sylweddol. Weithiau byddwn yn gofyn i fudiadau trydydd parti gynnal y gwaith ymchwil inni. Rydym bob amser yn gofalu bod y mudiadau trydydd parti hynny yn cydymffurfio gyda deddfwriaethau gwarchod data a chodi arian.<\/p>\n<p>Rydym yn gweithredu o dan y sail gyfreithiol o fuddion cyfreithiol er mwyn cynnal y gwaith ymchwil hwn.<\/p>\n<p>Rydym yn adolygu unrhyw ddata sydd gennym ni ar \u00f4l chwe mis ac os nad oes buddiannau, rydym yn eu cofnodi yn anweithredol ar ein cronfa ddata ac yn gofalu na fyddwn yn cysylltu gyda chi eto. Rydym ond yn cadw gwybodaeth sylfaenol i ofalu bod hyn yn digwydd, h.y. eich enw a chyfeiriad.<\/p>\n<p>Byddwn yn cyflwyno hysbysiad preifatrwydd atoch chi ac yn gofyn ichi am eich caniat\u00e2d inni gysylltu gyda chi ar y ff\u00f4n neu dros e-bost. Byddwn hefyd yn cynnig y dewis ichi ddadgofrestru rhag derbyn post gennym ni. Byddwn yn gwneud hyn ymhen un mis wedi inni gysylltu gyda chi am y tro cyntaf. Byddwn yn rhoi gwybod ichi sut bu inni dderbyn eich gwybodaeth.<\/p>\n<h5>Cyfraniadau<\/h5>\n<p>Os ydych chi\u2019n dymuno cyflwyno cyfraniad i Hft drwy ein gwefan, caiff y taliad ei brosesu\u2019n syth bin un ai gan Rapidata (os ydych chi\u2019n dymuno cyflwyno cyfraniadau rheolaidd), neu gan Worldpay (os ydych chi\u2019n dewis cyfrannu unwaith yn unig).<\/p>\n<ul>\n<li>Bwrw golwg ar <a href=\"http:\/\/rapidataservices.com\/terms-conditions\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">bolisi preifatrwydd <\/a>Rapidata<\/li>\n<li>Bwrw golwg ar <a href=\"https:\/\/www.worldpay.com\/uk\/privacy-policy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">bolisi preifatrwydd Worldpay<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Hft yn fodlon bod mesurau diogelu data Rapidata a Worldpay yn cydymffurfio gyda chyfraith diogelu data Prydain, a chaiff y statws hwn ei adolygu\u2019n rheolaidd.<\/p>\n<p>Yn ystod y broses o gyfrannu tuag at Hft, bydd gofyn ichi gyflwyno\u2019ch teitl, enw, cyfeiriad, rhif ff\u00f4n, statws cymorth rhodd, cyfeiriad e-bost a manylion am eich cyfrif banc. Mae\u2019r manylion hyn yn angenrheidiol er mwyn caniat\u00e1u i\u2019n prosesyddion taliadau brosesu eich cyfraniad(au) ac anfon e-bost o gadarnhad atoch chi (ynghyd \u00e2 chopi o\u2019r warant debyd uniongyrchol os ydych chi\u2019n dewis cyfrannu\u2019n rheolaidd tuag at Hft). Byddwn hefyd yn defnyddio\u2019ch cyfeiriad i anfon newyddion a\u2019r diweddaraf am Hft atoch chi, ynghyd \u00e2 gwybodaeth ynghylch Hft Trading Ltd, oni bai eich bod yn dewis peidio derbyn gwybodaeth ar y ffurf yma.<\/p>\n<p>Does dim rhaid ichi gyflwyno eich rhif ff\u00f4n ond bydd yn fodd inni fedru cysylltu gyda chi ynghylch newyddion, y diweddaraf, a\/neu wybodaeth am Hft Trading Ltd, os ydych chi\u2019n dewis derbyn manylion ac ati gennym ni yn y dull hwn.<\/p>\n<ul>\n<li>Ar gyfer cyfraniadau unwaith yn unig, bydd Worldpay ond yn cadw eich manylion am gyn hired ag sy\u2019n rhesymol ac angenrheidiol er mwyn prosesu\u2019ch cyfraniad.<\/li>\n<li>Ar gyfer taliadau rheolaidd, bydd Rapidata yn cadw eich data am faint bynnag byddwch yn parhau i gyfrannu\u2019n rheolaidd tuag at Hft, a chwe mis am ben hynny. Byddwn yn cadw cop\u00efau wedi eu sganio o\u2019ch cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol am gyn hired ag y byddwn yn prosesu\u2019ch cyfraniadau a chwe blynedd am ben hynny, er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwn yn defnyddio\u2019r wybodaeth wedi\u2019i chyflwyno inni gan ein cyfranwyr er mwyn prosesu cyfraniadau a chynnig gwybodaeth drwy ddulliau cyfathrebu y mae\u2019r cyfrannwyr wedi cytuno iddyn nhw. Nid ydym yn cadw manylion cardiau credyd, nac ychwaith yn rhannu manylion ein cyfrannwyr gydag unrhyw fudiadau trydydd parti oni bai am y rheiny sydd wedi\u2019u rhestru uchod er mwyn prosesu taliadau.<\/p>\n<h6>Polisi ad-dalu Cyfraniadau<\/h6>\n<p>Os ydych chi wedi cyflwyno taliad mewn camgymeriad, cysylltwch gydag ein hadran Gofal Cefnogwyr ar 0117 906 1699 neu anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:hello@hft.org.uk\">hello@hft.org.uk<\/a>\u00a0a byddan nhw\u2019n fwy na bodlon ad-dalu\u2019r taliad ichi.<\/p>\n<h5>Ymholiadau Aelodaeth<\/h5>\n<p>Ar ein gwefan, mae ffurflen sy\u2019n fodd i bobl ddatgan eu diddordeb mewn ymaelodi gyda Hft.<\/p>\n<p>Unwaith ichi gwblhau\u2019r ffurflen Ymholiadau Aelodaeth, byddwn yn gofyn ichi gyflwyno eich teitl, enw, rhif ff\u00f4n, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad cartref.<\/p>\n<p>Oni bai am y blychau teitl ac enw, sydd eu hangen arnom er mwyn cyfeirio atoch yn briodol yn ein hymateb, mae\u2019r holl flychau manylion eraill yn ddewisol er mwyn ichi benderfynu ar ba ffurf yr hoffech chi inni ymateb ichi.<\/p>\n<p>Byddwn yn defnyddio gwybodaeth gan bobl sy\u2019n cwblhau\u2019r ffurflen Ymholiadau Aelodaeth ar ein gwefan er mwyn inni fedru ymateb i\u2019ch ymholiad yn unig. Yn ystod y broses ymaelodi gyda Hft, byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach er mwyn inni fedru eich cofrestru fel aelod a phrosesu eich taliad. Bryd hynny, byddwn yn cynnig mwy o wybodaeth am sut caiff y data ychwanegol hwn ei brosesu.<\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n cwblhau\u2019r broses ymaelodi gyda Hft, bydd Hft yn cadw eich data am gyfnod eich aelodaeth ac un flynedd wedi hynny. Wedi hyn, byddwn yn dinistrio copi caled eich ffurflen aelodaeth yn ddiogel. Byddwn yn cadw gwybodaeth fel eich rhif aelodaeth a\u2019ch dyddiad ymaelodi a dad-gofrestru ar ein cronfa ddata am byth, er mwyn marchnata rhestri ataliadau neu er mwyn inni ymateb i ymholiadau gan gyn-aelodau.<\/p>\n<p>Os, wedi ichi gyflwyno eich ymholiad, rydych yn penderfynu peidio ag ymaelodi byddwn yn cadw eich data am dri mis cyn ei ddinistrio\u2019n ddiogel.<\/p>\n<h3>Rhannu eich gwybodaeth bersonol<\/h3>\n<p>Mae\u2019n bosib y bydd Hft yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda mudiadau trydydd parti yn y ffyrdd canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Byddwn weithiau yn manteisio ar asiantaethau a darparwyr gwasanaeth i brosesu gwybodaeth bersonol ar ein rhan ni. Er enghraifft, rydym yn defnyddio mudiadau trydydd parti i brosesu cyfraniadau gyda cherdyn credyd ac i gynnal a chadw ein gwefan. Os ydych chi\u2019n cofrestru i dderbyn newyddlenni ac ati gennym ni, mae\u2019n bosib y byddwn yn defnyddio cwmni argraffu trydydd parti neu wasanaeth postio.<\/li>\n<li>Byddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth bersonol pan fydd gofyn inni wneud hynny er dibenion cyfreithiol neu reoleiddiol neu fel rhan o weithrediadau cyfreithiol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwn ond yn rhannu\u2019r wybodaeth angenrheidiol gyda\u2019r cwmn\u00efau hyn er mwyn iddyn nhw fedru cynnig y gwasanaeth perthnasol. Byddwn yn gofalu caiff eich data ei drin gyda\u2019r un gofal \u00e2 phe baen ni\u2019n ei thrin ein hunain. Byddwn hefyd yn gofalu caiff y data ei ddileu gan gwmn\u00efau unwaith y byddan nhw wedi cynnig y gwasanaeth perthnasol.<\/p>\n<h3>Eich hawliau yn ymwneud \u00e2\u2019ch gwybodaeth bersonol<\/h3>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr\/individual-rights\/\">sawl hawl <\/a>gennych chi ynghlwm \u00e2 chyfraith Gwarchod Data cyfredol Prydain.<\/p>\n<p>Ymysg yr hawliau hyn mae\u2019r hawl i ofyn am gopi o\u2019r wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch chi a\u2019r hawl i gywiro unrhyw gamgymeriadau. Byddwn yn gofyn ichi gadarnhau pwy ydych chi cyn y byddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Mae\u2019n bosib hefyd y byddwch yn gofyn inni ddileu data sydd gennym ni amdanoch chi.<\/p>\n<p>Anfonwch unrhyw geisiadau at y Rheolwr Gwarchod Data yn Hft, 5\/6 Brook Office Park, Folly Brook Road, Emersons Green, Bristol, BS16 7FL.<\/p>\n<h3>Dolenni i wefannau eraill<\/h3>\n<p>Mae dolenni i wefannau mudiadau trydydd parti ar wefan Hft sydd ddim yn berthnasol i\u2019r Datganiad Preifatrwydd hwn. Bydd gan y gwefannau hyn eu Datganiadau Preifatrwydd eu hunain ac rydym yn eich annog chi i\u2019w darllen.<\/p>\n<h2>Defnydd o Gwcis<\/h2>\n<p>Mae cwcis ar ein gwefan er mwyn gofalu ein bod yn cynnig profiad boddhaol i\u2019r rheiny sy\u2019n ymweld \u00e2\u2019n gwefan. Mae cwci yn rhan o wybodaeth gaiff ei gadw ar yrrwr caled eich cyfrifiadur sy\u2019n cofnodi sut rydych yn defnyddio gwefan. Mae cwcis yn fodd i weithredwyr gwefannau gasglu gwybodaeth ddefnyddiol gallan nhw ei ddefnyddio er mwyn gwella\u2019r wefan a phrofiad y defnyddwyr.<\/p>\n<p>Dydy gwefan Hft ddim yn casglu na chadw gwybodaeth bersonol gan gwcis. Yn lle hynny, ydym yn defnyddio cwcis ar gyfer y canlynol: \u2013<\/p>\n<ul>\n<li>Canfod y nifer o bobl sydd wedi ymweld \u00e2 gwahanol dudalennau ein gwefan<\/li>\n<li>Cydnabod a oes hawl gan bobl ymweld \u00e2 mannau diogel ein gwefan, fel nad ydy\u2019r porwr yn gofyn i bobl fewngofnodi sawl gwaith wrth iddyn nhw bori\u2019r tudalennau diogel.<\/li>\n<li>Mesur y mathau o wybodaeth sy\u2019n ennyn diddordeb pobl, a gwybodaeth sydd ddim mor ddiddorol iddyn nhw.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae rhai o\u2019r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn gofalu bod rhannau penodol o\u2019n gwefan yn gweithredu fel y disgwyl. Mae rhai o\u2019r cwcis eraill yn ddianghenraid ond maen nhw\u2019n ein helpu i weld beth sy\u2019n gweithredu\u2019n effeithiol ac yn aneffeithiol sy\u2019n help inni ei wella\u2019n barhaus.<\/p>\n<p>Pan fyddwch yn ymweld \u00e2\u2019n gwefan am y tro cyntaf, bydd baner yn ymddangos yn gofyn ichi gadarnhau eich dewisiadau o ran cwcis. Bydd yn gyfle ichi bryd hynny i dderbyn yr holl gwcis neu ddiffodd y rheiny fuasai\u2019n well gennych chi beidio eu derbyn. Sylwch os byddwch yn dewis peidio \u00e2 derbyn yr holl gwcis, bydd angen ichi osod cwci yn eich porwr i \u2018gofio\u2019 y dewis hwn fel na fyddwn yn gofyn ichi droeon wrth ichi bori\u2019r wefan.<\/p>\n<p>Fel arall, os na hoffwch chi lawr lwytho cwcis i\u2019ch cyfrifiadur\/dyfais, gallwch eu hanalluogi drwy addasu\u2019r gosodiadau ar eich porwr. Sylwch, mae\u2019n bosib y bydd dileu neu analluogi\u2019r holl gwcis yn amharu ar rannau penodol o\u2019n gwefan.<\/p>\n<p>Sylwch hefyd mae\u2019n bosib y bydd diffodd yr holl gwcis yn golygu na fydd rhannau penodol o\u2019r wefan yn gweithredu\u2019n effeithiol.<\/p>\n<h3>Cwcis ar wefan Hft<\/h3>\n<p>Mae\u2019r tabl isod yn cynnig mwy o wybodaeth ynghylch yr amrywiaeth o gwcis ar waith ar hyd gwefan Hft.<\/p>\n<h3>Angenrheidiol<\/h3>\n<div class=\"cky-category-des\">\n<p>Mae angen cwcis hanfodol i alluogi nodweddion sylfaenol y safle hwn, megis darparu mewngofnodi diogel neu addasu eich dewisiadau caniat\u00e2d. Nid yw&#8217;r cwcis hyn yn storio unrhyw ddata personol y gellir ei adnabod.<\/p>\n<\/div>\n<div class=\"cky-table-wrapper\">\n<table class=\"cky-cookie-audit-table\">\n<thead>\n<tr>\n<th>Cwci<\/th>\n<th>Hyd<\/th>\n<th>Disgrifiad<\/th>\n<\/tr>\n<\/thead>\n<tbody>\n<tr>\n<td>cf_clearance<\/td>\n<td>1 mlynedd<\/td>\n<td>Mae Cloudflare yn gosod y cwci i reoli a gwirio heriau CAPTCHA, gan sicrhau y gall defnyddwyr dilys gael mynediad i&#8217;r wefan tra&#8217;n rhwystro traffig drwg.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>OptanonConsent<\/td>\n<td>1 mlynedd<\/td>\n<td>Mae OneTrust yn gosod y cwci hwn i storio manylion am gategori cwci&#8217;r safle a gwirio a yw ymwelwyr wedi rhoi neu dynnu eu caniat\u00e2d i ddefnyddio pob categori.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>OptanonAlertBoxClosed<\/td>\n<td>1 mlynedd<\/td>\n<td>Mae OneTrust yn gosod y cwci hwn i ganiat\u00e1u iddo osod cwcis yn seiliedig ar ganiat\u00e2d y defnyddiwr ac i guddio baner y cwcis unwaith y bydd y defnyddiwr wedi ei ddarllen a&#8217;i gydnabod.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>_GRECAPTCHA<\/td>\n<td>6 mis<\/td>\n<td>Mae gwasanaeth Google Recaptcha yn gosod y cwci hwn i adnabod botiaid i amddiffyn y wefan rhag ymosodiadau sbam drwggoenus.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>rc::a<\/td>\n<td>Byth yn Dod i Ben<\/td>\n<td>Mae&#8217;r cwci hwn wedi&#8217;i osod gan wasanaeth Google Recaptcha i adnabod bots er mwyn diogelu&#8217;r wefan rhag ymosodiadau sbam niweidiol.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>rc::f<\/td>\n<td>Byth yn Dod i Ben<\/td>\n<td>Mae&#8217;r cwci hwn wedi&#8217;i osod gan wasanaeth Google Recaptcha i adnabod bots er mwyn diogelu&#8217;r wefan rhag ymosodiadau sbam niweidiol.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>wpEmojiSettingsSupports<\/td>\n<td>sesiwn<\/td>\n<td>Mae WordPress yn gosod y cwci hwn pan fydd defnyddiwr yn rhyngweithio ag emojis ar safle WordPress. Mae&#8217;n helpu i bennu a all porwr y defnyddiwr ddangos emojis yn iawn.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>rc::c<\/td>\n<td>sesiwn<\/td>\n<td>Mae&#8217;r cwci hwn wedi&#8217;i osod gan wasanaeth Google Recaptcha i adnabod bots er mwyn diogelu&#8217;r wefan rhag ymosodiadau sbam niweidiol.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>rc::b<\/td>\n<td>sesiwn<\/td>\n<td>Mae&#8217;r cwci hwn wedi&#8217;i osod gan wasanaeth Google Recaptcha i adnabod bots er mwyn diogelu&#8217;r wefan rhag ymosodiadau sbam niweidiol.<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<\/div>\n<h3>Dadansoddeg<\/h3>\n<div class=\"cky-category-des\">\n<p>Defnyddir cwcis dadansoddol i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio \u00e2&#8217;r wefan. Mae&#8217;r cwcis hyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth am fetrigau megis nifer yr ymwelwyr, cyfradd ymadawiad, ffynhonnell traffig, ac ati.<\/p>\n<\/div>\n<div class=\"cky-table-wrapper\">\n<table class=\"cky-cookie-audit-table\">\n<thead>\n<tr>\n<th>Cwci<\/th>\n<th>Hyd<\/th>\n<th>Disgrifiad<\/th>\n<\/tr>\n<\/thead>\n<tbody>\n<tr>\n<td>_ga<\/td>\n<td>1 mlynedd 1 mis 4 diwrnodau<\/td>\n<td>Mae Google Analytics yn gosod y cwci hwn i gyfrifo data ymwelwyr, sesiynau ac ymgyrchoedd ac i olrhain defnydd o&#8217;r safle ar gyfer adroddiad dadansoddeg y safle. Mae&#8217;r cwci&#8217;n storio gwybodaeth yn anonymeiddio ac yn neilltuo rhif wedi&#8217;i gynhyrchu ar hap i gydnabod ymwelwyr unigryw.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>_ga_*<\/td>\n<td>1 mlynedd 1 mis 4 diwrnodau<\/td>\n<td>Mae Google Analytics yn gosod y cwci hwn i storio ac i gyfrif golygon tudalen.<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.hft.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hft-cookies.pdf\">Lawr lwytho gwybodaeth am gwcis ar wefan Hft<\/a><\/p>\n<h3>Diweddariadau<\/h3>\n<p>Mae\u2019n bosib y byddwn yn diweddaru\u2019r Polisi Preifatrwydd o bryd i\u2019w gilydd. Gofalwch eich bod yn gwirio\u2019r Polisi Preifatrwydd yn rheolaidd i weld y diweddaraf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dysgu mwy am Bolisi Preifatrwydd Hft a\u2019r Cwcis ar ein gwefan a chaiff eu defnyddio gan ein gwefan.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10863,"parent":0,"menu_order":166,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"yst_prominent_words":[1804,2065,2059,2066,2058,1919,2063,1753,2060,1636,2061,2067,2062,1778,1635,2069,2064,2071,2070,2068],"class_list":["post-236","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/236","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=236"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/236\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12160,"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/236\/revisions\/12160"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10863"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=236"}],"wp:term":[{"taxonomy":"yst_prominent_words","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.hft.org.uk\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/yst_prominent_words?post=236"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}