Language - Welsh
Language - English

Canmoliaethau a Chwynion


Rydym yn ymroi i ymateb i gwynion yn brydlon, yn deg ac yn synhwyrol a byddwn yn atebol i’r person sy’n cyflwyno’r gwyn. Byddwn yn cydnabod unrhyw gamgymeriadau gennym ni, yn eu cywiro pan yn bosib ac yn defnyddio’r profiad i ddysgu a gwella ein gwaith. Mae cyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno cwynion isod.

Fel arall, os hoffech chi ein canmol, defnyddiwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda gan ddewis yr opsiwn canmoliaeth yn hytrach na ‘cwyn’!

Sut i gyflwyno cwyn:

  • Gallwch gyflwyno cwyn drwy gwblhau’r ffurflen isod, drwy ein ffonio, drwy anfon llythyr, neu drwy ddweud wrth unrhyw aelod o staff yn bersonol.
  • Os oes angen cefnogaeth arnoch i gyflwyno cwyn, byddwn yn gwneud popeth hyd eithaf ein gallu i wneud hyn neu eich helpu i fanteisio ar gefnogaeth ychwanegol e.e. gwasanaeth eirioli neu wasanaeth dehongli.
  • Gallwch gyflwyno cwyn anhysbys a byddwn yn ei gofnodi a’i adolygu fel unrhyw gwyn arall. H.y. byddwn yn cydnabod camgymeriadau ac yn cywiro pethau pan fo angen. Fodd bynnag, ni fydd modd inni eich hysbysu o’n gweithrediadau. Sylwch, bydd cyflwyno eich cwyn yn anhysbys yn golygu na fydd modd inni dderbyn gwybodaeth gefndirol bellach gennych chi a all ein helpu i fynd i’r afael â’ch cwyn.
  • Byddwn yn cofnodi eich cwyn a’ch manylion cyswllt yna’n cydnabod eich cwyn ymhen pum diwrnod gwaith. Byddwn yn cadw’r wybodaeth ar ein system Cwynion a Chanmoliaethau. Dim ond staff Hft sy’n berthnasol i’ch cwyn fydd yn medru bwrw golwg ar yr wybodaeth.
  • Os byddwn yn cyflwyno eich cwyn i asiantaeth neu fudiad arall (oherwydd bod gofyn inni wneud hyn drwy gyfraith neu gytundeb), fe wnawn ni roi gwybod ichi. Byddwn yn rhannu cymaint o wybodaeth â phosib gyda chi am bwy fydd yn ymdrin â’ch cwyn yn yr asiantaeth neu fudiad arall.
  • Byddwn yn rhoi gwybod ichi pwy fydd yn adolygu ac yn ymateb i’ch cwyn. Byddwn hefyd yn rhannu eu manylion cyswllt a’r dyddiad y byddan nhw’n ymateb ichi. Dylai hyn fod ymhen 28 diwrnod o ddyddiad eich cwyn.
  • Byddwn yn rhoi gwybod ichi os bydd yn cymryd hirach na 28 diwrnod i ymateb ichi, yn egluro’r rheswm dros hyn ac yn cynnig dyddiad ichi ddisgwyl derbyn ymateb gennym ni.
  • Fel ymateb i’ch cwyn, byddwn yn gwneud y canlynol:
    • Disgrifio ein canfyddiadau a chydnabod unrhyw gamgymeriadau. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod os bu / os bydd unrhyw newidiadau yn sgil eich cwyn.
    • Byddwn yn rhannu cymaint o wybodaeth â phosib gan ddwyn i ystyriaeth cyfrinachedd a chydymffurfiad gydag ein dyletswyddau cyfreithiol a statudol.
    • Yn gofyn ichi roi gwybod inni os ydych chi’n fodlon gyda’r ymateb.
    • Os nad ydych chi’n fodlon gan eich bod o’r farn nad ydym wedi ymateb yn ddigonol a theg i’ch cwyn, byddwn yn cofnodi hyn ac yn annog adolygiad pellach. Byddwn yn rhoi gwybod ichi pwy fydd yn cynnal adolygiad pellach o’ch cwyn (ymhen pum diwrnod gwaith), ac yn rhannu eu manylion cyswllt a’r dyddiad y byddan nhw’n ymateb ichi. (Byddwn yn gwneud hyn ymhen 28 diwrnod ers y dyddiad ichi roi gwybod inni nad ydych chi’n fodlon gyda’r ymateb gwreiddiol).
  • Os, yn dilyn yr ail ymateb, y byddwch yn dal yn anfodlon, byddwn yn cynnig ichi gyfarfod gydag uwch reolwr.
  • Pan fyddwn ni wedi mynd i’r afael gyda’ch cwyn yn ddigonol, byddwn yn gofyn am eich barn ynghylch sut bu inni ymateb i’ch cwyn, pa mor hyderus ydych chi ynghylch defnyddio’r weithdrefn cwynion ac am eich syniadau chi ynghylch sut gallwn wella ein hymateb i gwynion. Bydd y Tîm Ansawdd a Gwella yn gweinyddu ac adolygu’r broses hon.

Bydd Tîm Gweithredol Hft (yn rheolaidd) ac Ymddiriedolwyr (yn flynyddol) yn mynd ati i adolygu cwynion, y deilliannau a’r gwersi dilynol ynghyd â’r adborth ynghylch sut bu inni drin y cwynion.

Os ydych chi’n anfodlon gyda sut bu i Hft drin eich cwyn

Os ydych chi’n dal yn anfodlon ynghylch sut cafodd eich cwyn ei drin, gallwch gwyno i’r Awdurdod Lleol sy’n eich ariannu chi neu’r person rydych yn eu cynrychioli.

Neu

Gallwch gysylltu gydag Ombwdsman y Llywodraeth Leol (LGO). Dyma fanylion cyswllt y Tîm Cyngor LGO:

Ffôn: 0300 061 0614

Neges Testun: anfonwch ‘call back’ gyda’ch enw a rhif ffôn symudol at 0762 480 3014

Ysgrifennwch at: Local Government Ombudsman, PO Box 4771, Coventry, CV4 0EH

E-bost: advice@lgo.org.uk

Gwefan: www.lgo.org.uk

Byddwn bob amser yn cydweithio’n llwyr gyda’r asiantaethau hyn.

Compliments and Complaints


We are committed to responding to complaints promptly, fairly and sensitively and being accountable to the person making the complaint. We will acknowledge mistakes where they have been made, put things right wherever possible and use this to learn and improve what we do. Instructions on how to complain can be found below.

Alternatively, if you’d like to give us a compliment, please also use the form below, and simply select the compliment option, rather than ‘complaint’!

How to complain:

  • You can make a complaint by completing the form below, by phone, letter, or in person to any member of staff.
  • If you need support to make a complaint we will do all we can to do this or help you to get additional support eg advocacy, interpreting services.
  • You can make an anonymous complaint and we will record and review this in the same way as any other complaint, ie we will identify if mistakes have been made and make changes where necessary. But we will not be able to let you know what we have done. Please note, making your complaint anonymously will also mean we have no way of seeking further background information from you that could help us in resolving your complaint.
  • We will record what your complaint is about and your contact details and acknowledge your complaint within five working days. This information will be held on our Complaints and Compliments system with access limited to Hft staff who are relevant to your complaint.
  • If we pass your complaint to another agency or organisation (because we are required by law or contract to do this) we will let you know. We will give you as much information as we can about who will be handling your complaint in the other agency or organisation.
  • We will tell you who will review and respond to your complaint and their contact details and the date that they will respond to you by. This should be within 28 days from the date of your complaint.
  • We will let you know if it is going to take longer than 28 days to respond to you, explain why this is and give you the date by which you can expect to have a response.
  • In our response to your complaint we will:
    • Describe what was found and acknowledge if any mistakes were made and whether changes have been and/or will be made as a result of your complaint
    • Give you as much information as possible balanced against necessary confidentiality and compliance with our legal and statutory duties
    • Ask you to tell us if you are satisfied with the response
    • If you are not satisfied because you believe that we have not responded properly and fairly to your complaint, we will record this and instigate a further review. We will let you know who will provide this further review of your complaint (within five working days), their contact details and the date they will respond to you by (within 28 days from the date you tell us that you are not satisfied with the first response).
  • If, following this second response, you remain unsatisfied we will offer you a meeting with a senior manager.

When your complaint has been concluded we will ask you what you think about how we responded to your complaint, how confident you feel about using the complaints procedure and for your ideas about how our response to complaints could be improved. The Quality and Improvement Team will administer and review this process.

Hft Executive (on a regular basis) and Trustees (annually) will review complaints, the subsequent outcomes and learning and the feedback about how complaints were handled.

If you are not satisfied with how Hft has dealt with your complaint

If you remain dissatisfied with the way your complaint has been handled, you can complain to the local authority that funds you or the person you are representing.

Or

You can contact the Local Government Ombudsman (LGO). The LGO Advice Team contact details are:

Tel: 0300 061 0614
Text: ‘call back’ with your name and mobile number to 0762 480 3014
Write to: Local Government Ombudsman, PO Box 4771, Coventry, CV4 0EH
Email: advice@lgo.org.uk
Website: www.lgo.org.uk

We will always co-operate fully with these agencies.

Compliment/Complaint Form


  • Break

  • Break

  • Break

  • Break

  • For more information on how we will handle data you provide to us, please visit our Privacy Policy.

Ffurflen Canmoliaethau / Cwynion


  • Break

  • Break

  • Break

  • Break

  • I wybod mwy am sut byddwn yn trin y data byddwch yn ei rannu gyda ni, cymrwch olwg ar ein Polisi Preifatrwydd.