Mae Hft yn manteisio ar Dechnoleg Bersonol (neu Dechnoleg Gynorthwyol) er mwyn cefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol a diogel, i wella’u preifatrwydd a gofalu bod modd iddyn nhw wneud mwy o ddewisiadau a meddu ar fwy o reolaeth.
Hft ydy un o arweinwyr Prydain o ran defnyddio Technoleg Bersonol, caiff ei gyfeirio ati fel technoleg gynorthwyol o bryd i’w gilydd, er mwyn cefnogi pobl gydag anawsterau dysgu i fod yn fwy annibynnol a diogel, i wella’u preifatrwydd a gofalu bod modd iddyn nhw wneud mwy o ddewisiadau a meddu ar fwy o reolaeth.
O systemau teleofal arbenigol i blygiau bath mwy diogel, mae modd i dechnoleg gyfoethogi bywydau’r rheiny rydym yn eu cefnogi – ond dim ond os ydy’r dechnoleg yn cefnogi dymuniadau ac anghenion unigryw yr unigolyn. Yma yn Hft rydym yn cynnal asesiadau personol manwl o’r rheiny rydym yn eu cefnogi, gan gydweithio gyda nhw a’u teuluoedd a staff cefnogi i ddod o hyd i ffyrdd creadigol gall dechnoleg wella’u bywydau rŵan ac yn y dyfodol.
Mae ein hagwedd tuag at Dechnoleg Bersonol – neu PT yn fyr – yn golygu ein bod yn bwrw golwg ar yr hyn mae pobl yn dymuno’i gyflawni’n gyntaf. Byddwn yn gwneud hyn cyn mynd ati i weld a fuasai technoleg gynorthwyol o help. Rydym yn ei gyfeirio ato fel Technoleg Bersonol oherwydd mae’r datrysiad wedi’i deilwra i fodloni anghenion yr unigolyn – gan olygu bod y person yn ganolog i’r gwasanaeth.
Mewn gwirionedd felly, nid y dechnoleg ei hun sy’n bwysig, ond y person a sut gallwn ni eu helpu i fyw’r bywyd gorau posib.
I weld y newyddion diweddaraf gan y tîm PT, ewch i www.facebook.com/HftPersonalisedTechnology.
Rydym yn cynnig asesiadau, ymgynghoriaethau a hyfforddiant annibynnol a phersonol yn ymwneud â datrysiadau technoleg gynorthwyol – gan helpu pobl i fyw’r bywyd gorau posib.
Gall ein tîm Technoleg Bersonol arbenigol gynnig y gwasanaethau canlynol i unrhyw berson neu fudiad sy’n dymuno manteisio i’r eithaf ar fuddion Technoleg Bersonol:-
Sesiwn hyfforddi rhyngweithiol hanner diwrnod o hyd yn ymwneud â: –
I wybod mwy ac i dderbyn y costau, cysylltwch gyda: personalisedtechnology@hft.org.uk
Hft is one of the UK’s leaders in the use of Personalised Technology, sometimes referred to as assistive technology, to support people with learning disabilities to increase their independence, safety, privacy, choice and control.
From specialist telecare systems to safer bath-plugs, assistive technology can enhance the lives of the people we support – but only where it supports an individual’s unique desires and needs. At Hft we conduct detailed personal assessments with the people we support, working with them and their families and support staff to find creative ways for technology to improve their lives, both now and in the future.
Our approach to Personalised Technology – or PT for short – means we look at what people want to achieve first, before then exploring whether assistive technology could help. We call it Personalised Technology because the solution is tailored to the individual and their needs – putting the person at the centre.
In other words, it’s not about the technology itself; it’s the person and how we can help them to live the best life possible that really counts.
And for the latest news from the PT team, visit www.facebook.com/HftPersonalisedTechnology.
We offer independent, personalised assessment, consultancy and training in assistive technology solutions – helping people live the best lives possible.
Our specialist Personalised Technology team can offer the following services to any person or organisation looking to make more of the benefits that PT can provide: –
A half day interactive training session covering: –
For more information and pricing, please contact: personalisedtechnology@hft.org.uk